SL(6)233 – Rheoliadau Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021 (Diwygiadau Canlyniadol) (Is-ddeddfwriaeth) (Rhif 3) 2022

Cefndir a Diben

Mae Rheoliadau Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021 (Diwygiadau Canlyniadol) (Is-ddeddfwriaeth) (Rhif 3) 2022 ("y Rheoliadau hyn") yn cael eu gwneud gan Weinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 74(1) a 75(1)(b) o Ddeddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021 ("Deddf 2021").

Mae Deddf 2021 yn gosod fframwaith deddfwriaethol ar gyfer fframwaith cwricwlwm ac asesu newydd a arweinir gan ddibenion ar gyfer plant a phobl ifanc rhwng 3 ac 16 oed sy'n derbyn addysg mewn:

·         ysgolion a gynhelir gan gynnwys ysgolion meithrin a gynhelir;

·         lleoliadau sy'n darparu addysg feithrin a ariennir nas cynhelir;

·         Unedau Cyfeirio Disgyblion;

·         lleoliadau nad ydynt yn Unedau Cyfeirio Disgyblion sy'n darparu addysg heblaw yn yr ysgol (AHY) a drefnir gan awdurdodau lleol.

Mae hefyd yn gwneud darpariaeth gyfyngedig ar gyfer addysg ôl-orfodol mewn ysgolion a gynhelir (Rhan 5 o Ddeddf 2021).

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio is-ddeddfwriaeth i roi effaith llawn i ddarpariaethau o dan Ddeddf 2021 a gweithredu’r Cwricwlwm newydd i Gymru o 1 Medi 2022.

Bydd y Cwricwlwm newydd i Gymru yn cael ei gyflwyno i blant a disgyblion yn raddol. Daw’r Cwricwlwm newydd i Gymru yn fandadol ar gyfer y grwpiau blwyddyn mewn ysgolion a lleoliadau eraill fel a ganlyn:

Wedi'i gyflwyno'n raddol o:

Blwyddyn ysgol/dysgwyr sy'n dilyn y Cwricwlwm i Gymru

Blwyddyn ysgol/dysgwyr sy’n dilyn y Cwricwlwm Cenedlaethol (a Lleol)

Medi 2022

Meithrin, derbyn, blwyddyn 1 i flwyddyn 6 a blwyddyn 7 ar gyfer ysgolion/lleoliadau sydd wedi dewis gweithredu’r Cwricwlwm newydd i Gymru o 2022.

Blwyddyn 7 mewn ysgolion/lleoliadau sydd wedi dewis peidio â gweithredu’r Cwricwlwm newydd i Gymru o 2022; a blynyddoedd 8 i 11.

Medi 2023

Pob blwyddyn hyd at flwyddyn 8 ac yn cynnwys y flwyddyn honno

Blynyddoedd 9 i 11

Medi 2024

Pob blwyddyn hyd at flwyddyn 9 ac yn cynnwys y flwyddyn honno

Blynyddoedd 10 i 11

Medi 2025

Pob blwyddyn hyd at flwyddyn 10 ac yn cynnwys y flwyddyn honno

Blwyddyn 11

Medi 2026

Dysgwyr blynyddoedd meithrin a derbyn a dysgwyr o oedran ysgol gorfodol (blynyddoedd 1 i 11).

Mewn perthynas â Rhan 5 o Ddeddf 2021 - y dysgwyr hynny mewn ysgolion a gynhelir sydd mewn addysg ôl-16 (blynyddoedd 12 a 13).

Dim – ni fydd y Cwricwlwm Cenedlaethol yn berthnasol mwyach.

 

Mae’r Rheoliadau hyn yn bennaf yn gwneud diwygiadau i is-ddeddfwriaeth a wnaed o dan Ddeddf Addysg 1996.

Mae Rhan 1 o'r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer cychwyn y diwygiadau ar 1 Medi 2022 ac eithrio fel y nodir yn y rheoliadau unigol a restrir yn Rhan 2 a'r diffiniad o derminoleg a gynhwysir yn y darpariaethau.

Mae Rhan 2 yn gwneud diwygiadau canlyniadol i is-ddeddfwriaeth arall. Er enghraifft, mae diwygiadau yn Rhan 2 yn diwygio terminoleg mewn rheoliadau fel bod eu darpariaethau'n cyd-fynd â Deddf 2021, gan gynnwys dileu cyfeiriadau at “Cwricwlwm Cenedlaethol” a’r “cyfnodau allweddol” a mewnosod cyfeiriadau at “cwricwlwm a fabwysiadwyd o dan Ddeddf 2021”. Mae hefyd yn dirymu is-ddeddfwriaeth nad yw'n ofynnol ar gyfer gweithredu'r Cwricwlwm i Gymru, gan gynnwys Rheoliadau Addysg (Cwricwlwm Cenedlaethol) (Eithriadau) (Cymru) 1995.

Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn gwneud mân ddiwygiad i Reoliadau Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021 (Darpariaeth Drosiannol ac Arbed) 2022.

Yn ogystal, mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud dau fân ddiwygiad i reoliad 2 o Reoliadau Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021 (Diwygiadau Canlyniadol) (Is-ddeddfwriaeth) (Rhif 2) 2022 mewn ymateb i adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad ar y rheoliadau hynny. Maent yn cywiro’r diffiniadau Cymraeg sy’n ymddangos yn nhestun Saesneg rheoliad 2, sef “Act 2021” a “head teacher”.

Gweithdrefn

Negyddol.

Gwnaed y Rheoliadau gan Weinidogion Cymru cyn iddynt gael eu gosod gerbron y Senedd. Caiff y Senedd ddirymu'r Rheoliadau o fewn 40 diwrnod (ac eithrio unrhyw ddyddiau pan fo’r Senedd: (i) wedi’i diddymu neu (ii) mewn cyfnod o doriad am fwy na phedwar diwrnod) i'r dyddiad y’u gosodwyd gerbron y Senedd. 

Materion technegol: craffu

Nodwyd y pwyntiau a ganlyn i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â’r offeryn hwn.

1. Rheol Sefydlog 21.2(vi) – ei bod yn ymddangos bod y gwaith drafftio yn ddiffygiol neu ei fod yn methu â bodloni gofynion statudol

Yn rheoliad 19(2)(a), mae cyfeiriad at reoliad 2(a)(iii) yn Rheoliadau’r Cwricwlwm Cenedlaethol (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2016 sydd i’w hepgor. Fodd bynnag, mae’n ymddangos nad oes is-baragraff (iii) yn rheoliad 2(a) o'r Rheoliadau hynny, ac mae'n ymddangos y dylai’r cyfeiriad cywir fod at reoliad 2(a)(ii).

2. Rheol Sefydlog 21.2(vi) – ei bod yn ymddangos bod y gwaith drafftio yn ddiffygiol neu ei fod yn methu â bodloni gofynion statudol

Mae rheoliad 10(7)(a)(ii) yn mewnosod diffiniad newydd o “cyfnod allweddol” yn rheoliad 3 o Reoliadau Addysg (Gwybodaeth am Ddisgyblion Unigol) (Cymru) 2007 o 1 Medi 2024 ymlaen. Mae’r diffiniad newydd a roddir yn cyfeirio at adran 103(1) o Ddeddf Addysg 2002, ond mae adran 103 wedi’i diddymu gan baragraff 45 o Atodlen 2 i Ddeddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021 ar 30 Ebrill 2021.

3. Rheol Sefydlog 21.2(vii) – ei bod yn ymddangos bod anghysondebau rhwng ystyr testun Cymraeg a thestun Saesneg yr offeryn neu’r drafft.

Wrth adolygu’r Rheoliadau hyn a’r diwygiadau y maent yn ceisio eu gweithredu, mae’r Pwyllgor yn nodi bod anghysondebau mewn sawl achos o ran cywerthedd y testun Cymraeg a’r testun Saesneg ac, yn ogystal â hynny, mae rhai o’r rhain hefyd yn cynnwys methu â chadw at y canllawiau drafftio fel y’u nodwyd yn Drafftio Deddfau i Gymru. Mae’r enghreifftiau yn y Rheoliadau yn cynnwys:

a.      Yn rheoliad 7(5)(b)(i)(bb), nid yw ffurf y geiriau a ddefnyddir ar gyfer y diwygiad yn dilyn y confensiwn yn Drafftio Deddfau i Gymru 7.3(2). At hynny, nid oes unrhyw eiriau cyfatebol yn y testun Cymraeg ar gyfer “in its place” wrth nodi lle y dylid mewnosod y geiriau newydd. O'r herwydd, nid yw'n dilyn y bydd y testun newydd yn cael ei fewnosod yn yr un lle yn union â'r testun presennol sydd wedi'i hepgor, yn wahanol i ddiwygiad sy'n cael ei ddisgrifio fel amnewidiad. Hefyd, mae'r diwygiad yn 7(5)(b)(i)(cc) yn defnyddio dull gwahanol i'r hyn a ddefnyddir yn rheoliad 7(5)(b)(i)(bb) sydd yn union o’i flaen.

 

b.     Yn rheoliad 8, yn y testun Cymraeg, mae’r cyfieithiad o’r teitl yn anghywir yng nghorff y rheoliad gan fod y gair sy’n cyfateb i “Education” ar goll.

 

c.      Yn rheoliad 10(2), yn y testun Cymraeg, mae’r geiriau sy’n cyfateb i “In regulation 3,” sy’n disgrifio’r lleoliad ble y dylid mewnosod y diffiniadau newydd, ar goll o’r cyfieithiad.

 

d.     Yn rheoliad 11(2), yn y testun Cymraeg, mae'r diffiniad newydd o “lleoliad” (“setting”) wedi'i rannu'n baragraffau (a) i (d). Fodd bynnag, gwnaed Rheoliadau 2009 pan ddefnyddid yr wyddor Gymraeg ar gyfer is-raniadauu’r cyfieithiadau. Felly, dylai paragraff terfynol y diffiniad newydd o “lleoliad”, a fydd yn cael ei fewnosod yn y Rheoliadau hynny, gael ei restru fel “(ch)” yn hytrach na “(d)” i fod yn gyson ag arddull rifo’r offeryn gwreiddiol (gweler Drafftio Deddfau i Gymru 7.18(2)). Yn ogystal, dylid newid y cysylltair ar ôl paragraff (c) o “a” i “ac” o ganlyniad i'r newid hwnnw.

 

e.      Yn rheoliad 11(2), yn y testun Cymraeg, rhoddir y cysylltair “ac” ar ôl y diffiniad olaf ond un yn y rhestr o ddiffiniadau sydd i'w mewnosod yn rheoliad 2 o Reoliadau 2009. Fodd bynnag, ni roddir y cysylltair “and” ar ôl y diffiniad olaf ond un yn y testun Saesneg.

Rhinweddau: craffu    

Nodwyd y pwyntiau a ganlyn i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â’r offeryn hwn:

4. Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd

Yn rheoliad 11(4), defnyddir y term “Rheoliadau 2009”. Fodd bynnag, nid yw’r term hwn wedi’i ddiffinio yn flaenorol yn rheoliad 11(1) o’r Rheoliadau hyn (yn wahanol i fannau eraill wrth fabwysiadu’r dull hwn, er enghraifft rheoliadau 7(1) a (6), a 10(1) a (9)). Nid yw ychwaith wedi’i ddiffinio yn rheoliad 2(1) o’r Rheoliadau hyn nac, yn rhinwedd rheoliad 2(2), yn Neddf 2021.

5. Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd

Wrth adolygu’r Rheoliadau hyn a’r diwygiadau y maent yn ceisio eu gweithredu, mae’r Pwyllgor yn nodi nad yw’n ymddangos bod Llywodraeth Cymru, mewn sawl achos, wedi cadw at ei chanllawiau drafftio ei hun, fel y’u nodir yn Drafftio Deddfau i Gymru. Mae’r Pwyllgor yn annog Llywodraeth Cymru i gadw at ei safonau ei hun wrth ddrafftio deddfwriaeth. Ymhlith y prif enghreifftiau yn y Rheoliadau hyn mae:

a.      Yn rheoliad 2(1), diffinnir “ysgol a gynhelir” at ddibenion y Rheoliadau hyn. Fodd bynnag, caiff y term hefyd ei ddiffinio, a rhoddir ystyr gwahanol iddo, yn rheoliadau 7(6), 10(9), 14(5) a 15(4) ar gyfer y rheoliadau penodol hynny. Byddai’n ddefnyddiol pe bai nodyn i gyd-fynd â’r diffiniad yn rheoliad 2(1) i rybuddio’r darllenydd ac o bosibl egluro ble mae’r diffiniad yn gymwys neu’n anghymwys (gweler Drafftio Deddfau i Gymru 4.8(5)).

 

b.     Yn rheoliadau 9(3), 12, 15(3)(c) a (d), ceir cyfarwyddiadau i “ddirymu” darpariaethau penodol a geir o fewn rheoliadau perthnasol, ond mewn mannau eraill defnyddir y term “hepgor”. Mae hyn yn cynnwys rheoliad 15(3)(a) ac (c) lle defnyddir cyfuniad o “hepgorer” a “dirymu” fel cyfarwyddiadau wrth ddirymu darpariaethau a geir o fewn yr un rheoliad. Gallai hyn fod yn ddryslyd i'r darllenydd, ac mae canllawiau drafftio Llywodraeth Cymru yn hollol glir y dylid defnyddio "dirymu" dim ond wrth ddirymu'r rheoliad cyfan (megis yn rheoliadau 4 ac 8) ac y dylid defnyddio "hepgor" wrth ddirymu darpariaethau penodol o fewn y rheoliad, ond nid yr offeryn cyfan (gweler Drafftio Deddfau i Gymru 7.4(1) a (3)).

 

c.      Yn rheoliad 6(2), nodir bod y diwygiad yn cael ei fewnosod “Yn rheoliad 2”. Fodd bynnag, mae rheoliad 2 o Reoliadau 2002 yn cael ei is-rannu yn baragraffau ynghylch dehongli. Felly, nid yw'r disgrifiad o'r diwygiad yn ddigon manwl wrth ddisgrifio ble y dylid mewnosod y diffiniad newydd yn rheoliad 2 (gweler Drafftio Deddfau i Gymru 7.7(1)). Mae enghreifftiau diweddarach o ddiwygiadau tebyg yn y Rheoliadau hyn, fel y rhai a geir yn rheoliad 7(2) a (5)(a), 14(2) ac 20, yn rhoi disgrifiadau mwy manwl o ran diwygio rheoliad 2 sydd ag isadrannau, gan nodi “Yn rheoliad 2(1)…”.

 

d.     Yn rheoliad 7(2)(a), yn nhestun y ddwy iaith, nid yw’r diffiniad o “Hwb” wedi’i ddilyn gan y diffiniad cyfatebol a ddefnyddir yn yr iaith arall mewn cromfachau. Mae diffiniadau eraill a geir yn rheoliad 2(1) o Reoliadau 2002 lle defnyddir yr un gair fel y diffiniad yn y ddwy iaith, fel “grant” a “mentor”, wedi cynnwys y diffiniad cyfatebol mewn cromfachau i helpu’r darllenydd (Drafftio Deddfau i Gymru 4.15(6)).

 

e.      Ceir achosion eraill o beidio â dilyn Drafftio Deddfau i Gymru drwy gydol y Rheoliadau hyn gan gynnwys rheoliad 7(5)(b)(iii)(aa).

Ymateb Llywodraeth Cymru

Pwynt Craffu Technegol 1:

Mae Llywodraeth Cymru yn nodi adroddiad y Pwyllgor ac yn cytuno â’i gasgliad. Dylai’r cyfeiriad yn rheoliad 19(2)(a) gael ei newid o reoliad 2(a)(iii) i reoliad 2(a)(ii) yn y ddwy iaith. Bydd Rheoliadau 2022 yn cael eu diwygio i ymdrin â hyn pan fydd y cyfle nesaf yn codi.

Pwynt Craffu Technegol 2:

Mae Llywodraeth Cymru yn nodi adroddiad y Pwyllgor ond yn anghytuno ag ef ac yn credu bod y diwygiad yn briodol. Diddymwyd adran 103(1) o Ddeddf Addysg 2002 gan baragraff 45 o Atodlen 2 i Ddeddf 2021, ond wedyn fe’i harbedwyd gan reoliad 3 o OS 2022/111 o dan amgylchiadau penodol. Mae hyn yn golygu nad yw diddymiad adran 103 wedi cymryd effaith yn yr achos hwn ac felly, mae’r amnewidiad a wneir gan Reoliadau 2022 yn ofynnol er mwyn cysoni Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Ddisgyblion Unigol) (Cymru) 2007 â diwygiadau eraill sy’n adlewyrchu’r broses o gyflwyno’r cwricwlwm newydd.

Pwynt Craffu Technegol 3a:

·         Mae Llywodraeth Cymru yn nodi adroddiad y Pwyllgor ynghylch y ffurf ar eiriau ond nid yw’n bwriadu gwneud diwygiad. Mae’r ddarpariaeth a’r cyd-destun deddfwriaethol yn cefnogi dull gwahanol i’r Canllaw ac mae'r ffurf ar eiriau yn gweithio o ran y gyfraith.

·         Mae Llywodraeth Cymru yn nodi adroddiad y Pwyllgor ar gystrawen y Gymraeg ond nid yw’n cytuno ag ef. Mae’r geiriau “ar ôl “cyrhaeddiad” yn y lle cyntaf y mae’n digwydd” yn ei gwneud yn glir bod y testun i’w ddileu a bod angen mewnosod testun newydd yn ei le ar ôl “cyrhaeddiad”.

·         Mae Llywodraeth Cymru yn nodi adroddiad y Pwyllgor ar y dull a ddefnyddiwyd wrth wneud diwygiadau, ac mae o’r farn bod y cyd-destun deddfwriaethol a strwythur y frawddeg yn cefnogi’r dull hwn.

Pwynt Craffu Technegol 3b:

Mae Llywodraeth Cymru yn nodi adroddiad y Pwyllgor ac yn cytuno y dylai’r gair coll gael ei gynnwys yn enw Cymraeg yr OS. Bydd Rheoliadau 2022 yn cael eu diwygio i ymdrin â hyn pan fydd y cyfle nesaf yn codi.

Pwynt Craffu Technegol 3c:

Mae Llywodraeth Cymru yn nodi adroddiad y Pwyllgor ac yn cytuno y dylai’r testun “yn rheoliad 3” gael ei gynnwys yn nhestun Cymraeg rheoliad 10(2) ar ddechrau’r ddarpariaeth honno. Bydd Rheoliadau 2022 yn cael eu diwygio i adlewyrchu hyn pan fydd y cyfle nesaf yn codi.

Pwynt Craffu Technegol 3d:

Mae Llywodraeth Cymru yn nodi adroddiad y Pwyllgor ac yn cytuno y dylai’r wyddor Gymraeg gael ei defnyddio yn y diwygiad i is-raniadau’r diffiniad newydd o “lleoliad”, er nad oes risg o gamddehongli’r gyfraith yn yr achos hwn. Bydd Rheoliadau 2022 yn cael eu diwygio i adlewyrchu hyn pan fydd y cyfle nesaf yn codi.

Pwynt Craffu Technegol 3e:

Mae Llywodraeth Cymru yn nodi adroddiad y Pwyllgor ac yn cytuno i ddiwygio Rheoliadau 2022 er mwyn ychwanegu cysylltair at reoliad 11(2) yn y testun Saesneg pan fydd y cyfle nesaf yn codi. 

Pwynt Craffu ar Rinweddau 4:

Mae Llywodraeth Cymru yn nodi adroddiad y Pwyllgor ac yn cytuno ag ef. Bydd Rheoliadau 2022 yn cael eu diwygio pan fydd y cyfle nesaf yn codi fel bod rheoliad 11(1) yn cynnwys y geiriau “(“Rheoliadau 2009”)” a “(“the 2009 Regulations”)” ar ôl cyfeiriad y troednodyn at enw’r Rheoliadau yn y testunau Cymraeg a Saesneg.

Pwynt Craffu ar Rinweddau 5a:

Mae Llywodraeth Cymru yn nodi adroddiad y Pwyllgor ar y diffiniad o “ysgol a gynhelir” ond nid yw’n bwriadu gwneud diwygiad gan ei bod yn credu bod y diffiniadau a ddarperir yn glir. Bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried yr awgrym o ran y gwaith drafftio yn y dyfodol.

Pwynt Craffu ar Rinweddau 5b:

Mae Llywodraeth Cymru yn nodi’r pwynt ond nid yw’n bwriadu diwygio mewn perthynas â hyn gan fod yr effaith yn glir o ran y gyfraith.

Pwynt Craffu ar Rinweddau 5c:

Mae Llywodraeth Cymru yn nodi adroddiad y Pwyllgor ac yn cytuno y dylai’r cyfeiriad yn rheoliad 6(2) fod at reoliad 2(1) ac nid at reoliad 2. Bydd Rheoliadau 2022 yn cael eu diwygio i adlewyrchu hyn pan fydd y cyfle nesaf yn codi.

Pwynt Craffu ar Rinweddau 5d:

Mae Llywodraeth Cymru yn nodi adroddiad y Pwyllgor ond nid yw’n bwriadu gwneud diwygiad i gynnwys diffiniadau wedi eu hitaleiddio o’r un gair gan fod “Hwb” yn enw priod (system ar-lein) nad oes iddo enw mewn iaith wahanol ac nid oes modd ei gamddeall.

Pwynt Craffu ar Rinweddau 5e:

Mae Llywodraeth Cymru yn nodi adroddiad y Pwyllgor ond nid yw’n bwriadu diwygio’r enghraifft a restrir gan fod yr arddull ddrafftio’n briodol ar gyfer y cyd-destun deddfwriaethol ac mae’r ddarpariaeth yn glir ac yn gweithio o ran y gyfraith.

 

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

11 Awst 2022